Clinic Ceiropracteg Bargoed

Print PDF

Gall triniaeth Ceiropracteg gynnig triniaeth effeithiol i nifer o anhwylderau’r system gyhyrysgerbydol (musculoskeletal), triniaeth sydd ddim yn dibynnu ar ddefnydd cyffuriau.

Ein hamcan yw cynnig triniaeth o’r safon uchaf, seiliedig ar y dystiolaeth feddygol ddiweddaraf, mewn modd effeithiol a chyfeillgar.

Mae ein hymarferwyr yn aelodau o’r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol a’r Gymdeithas Ceiropracteg Brydeinig. Daw’r gair “ceiropractic” o’r geiriau Groegaidd “chiero” sy’n golygu dwylo a’r gair “praktos” sy’n golygu defnyddio, felly ystyr ceiropracteg yw trin gyda dwylo. Mae ceiropracteg yn canolbwyntio ar ddiagnosis, triniaeth a rheolaeth anhwylderau a achosir gan broblemau’r cymalau, y gewynnau a’r asgwrn cefn. Adnabyddir ceiropracteg fel dull effeithiol o drin poenau yn rhan isaf y cefn ond hefyd gallwn gynnig triniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i nifer o broblemau arall, yn yr ysgwyddau, y coesau a’r breichiau, yn ogystal a phennau tost a achosir gan densiwn. Mae’n ofynnol ar giropractwyr, a’u rheolir gan y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol, i ddiweddaru eu sgiliau’n rheolaidd er mwyn cynnal eu cofrestriad blynyddol.

Gallwch ddod atom yn syth am ymgynghoriad neu am driniaeth – nid oes raid gweld eich doctor gyntaf. Mewn rhai achosion bydd meddygon yn cynghori cleifion i ddod atom.

Os nad ydych yn sicr pa fath o driniaeth fyddau’n addas ar eich cyfer, gallwch gael sgwrs anffurfiol dros y ffon gydag ymarferwr neu ffoniwch i wneud apwyntiad. Rydym yn cynnig ymgynghoriad 15 munud am ddim i drafod eich achos.

Mae’r mwyafrif o gwmniau yswiriant iechyd yn cydnabod triniaeth ceiropracteg e.e. BUPA, AXA, PPP, HSA, WHA, ayb. Gwiriwch eich polisi am fanylion.

Ffoniwch heddiw am apwyntiad :

01443 60 60 50